Rhannu gwybodaeth am ysgolion leol

Cwestiynau cyffredin

Beth yw gwefan Fy Ysgol Leol?

Gwefan yw Fy Ysgol Leol sy’n darparu gwybodaeth ystadegol ar addysg ysgolion yng Nghymru. Mae’n borthol gwybodaeth gwerthfawr a hwylus ar gyfer rhieni a gofalwyr a’r rheini sydd â diddordeb mewn ystadegau am addysg ysgolion yng Nghymru. Bydd y wefan yn rhoi gwybodaeth am ysgolion penodol gan gynnwys:

  • cyd-destun – math o ysgol, poblogaeth yr ysgol, nifer yr athrawon
  • gwybodaeth am berfformiad yn y cyfnod sylfaen, cyfnodau allweddol 2 a 3, TGAU a Safon Uwch. Bandio a data cefndir.
  • gwybodaeth ariannol fel gwariant yn ôl ysgol
  • dolen i adroddiad diweddaraf Estyn

Mae hefyd yn caniatáu i rieni gymharu ysgol ag ysgolion eraill awdurdodau lleol a Chymru.

Pam datblygwyd gwefan Fy Ysgol Leol?

Mewn ymateb i benderfyniad y Gweinidog Addysg a Sgiliau i godi safonau mewn ysgolion, datblygodd Llywodraeth Cymru Fy Ysgol Leol i’w gwneud yn haws i bawb allu gweld ystadegau addysg.

Yn Adroddiad Annibynnol y Grwp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru Mawrth 2011, argymhellwyd y dylai AdAS fynd ati i arwain y ffordd o ran datblygu un platfform data TG cenedlaethol. Nodwyd y dylai’r platfform ddangos gwybodaeth am berfformiad ysgolion, colegau addysg bellach, awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a darparwyr eraill. Dywedodd y dylai fod yn hawdd cael gafael ar yr wybodaeth, y dylai fod yn hawdd ei deall ac ar gael i bawb sydd â diddordeb, gan gynnwys rhieni. Byddai hyn yn ategu adroddiadau Estyn.

Mae adroddiad ‘Darparu Gwell Cymru’ y Llywodraeth hefyd yn nodi ein bod am wneud mwy o wasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau’r Llywodraeth yn ddigidol er mwyn ei gwneud yn haws cael gafael arnynt a bod yn fwy effeithlon.

Beth yw manteision gwefan Fy Ysgol Leol i rieni a gofalwyr?

Rydym yn gwybod bod rhieni yn awyddus i gael gwybodaeth am berfformiad ysgolion. Yn yr oes hon o Ryddid Gwybodaeth, mae’n dod yn haws drwy’r amser cael gafael ar ddata. Mae’r wefan yn rhoi darlun cliriach i rieni a’n partneriaid o sut mae ysgolion yng Nghymru yn perfformio.

Drwy fod yn fwy agored a thryloyw ynghylch ystadegau ysgolion, bydd rhieni mewn sefyllfa well i drafod y safonau. Rydym am annog rhieni i gyfrannu at y drafodaeth ynghylch gwella ysgolion ac rydym yn darparu’r wybodaeth er mwyn iddynt allu gwneud hynny.

A yw’r wybodaeth ar y wefan wedi bod ar gael i’r cyhoedd yn y gorffennol?

Ydy, mae’r ystadegau ar y wefan wedi bod ar gael i’r cyhoedd bob amser. Mae’n gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn haws cael gafael ar yr wybodaeth hon, a’i gwneud yn hawdd ei deall a’i defnyddio.

A ymgynghorwyd â rhieni ar ddatblygu ‘Fy Ysgol Leol’?

Do, profwyd y wefan ymhlith rhieni drwy grwpiau ffocws. Gofynnwyd iddynt am adborth ar ba mor hwylus yr oedd y wefan i’w defnyddio ac ar y derminoleg. Defnyddiwyd yr adborth wrth ddatblygu’r wefan.

Pam mae peth o’r data am fy ysgol i ar goll?

Gallai fod yna sawl rheswm pam mae data ar goll. Er enghraifft os yw ysgol wedi agor neu uno ag ysgol arall yn ddiweddar, efallai na fydd data ar ei chyfer am rai blynyddoedd, neu efallai y bydd peth data ar goll.

Ond mae’n fwy tebygol mai ystyriaethau datgelu gwybodaeth yw’r rheswm. Mae’r ffaith ei bod wedi dod yn haws cael gafael ar ddata dros y blynyddoedd diwethaf yn golygu ei bod yn haws dyfalu pwy yw’r unigolion mewn ystadegau. Mae’n hanfodol felly bod y mesurau sy’n rheoli’r wybodaeth a ddatgelir er mwyn diogelu cyfrinachedd unigolion sy’n rhan o ystadegau swyddogol yn ddigonol ac yn gadarn. Yn gyffredinol, yn achos cohort o lai na 5 disgybl, mae’n annhebygol y gellir cyhoeddi’r data.

Ble mae fy ysgol annibynnol?

Ni roddir gwybodaeth am ysgolion annibynnol. Byddwn yn adolygu'r wybodaeth y gellir ei rhannu yn y dyfodol.

O ble ga i gyngor manylach?

Mae Fy Ysgol Leol yn rhoi gwybodaeth fanwl iawn. Yn ôl pob tebyg, ni fyddai data manylach ar gael mewn llawer o achosion oherwydd gofynion diogelu data. Rydym yn ystyried pa ddata y gellir eu hychwanegu yn y dyfodol. Mae mwy o wybodaeth am ysgolion ar gael drwy StatsCymru: www.statswales.wales.gov.uk neu gallwch anfon cais i school.stats@wales.gsi.gov.uk

Pam defnyddio Prydau Ysgol Am Ddim?

Mae nifer o ffyrdd o fesur amddifadedd cymdeithasol, ond y ffordd fwyaf cyffredin yw drwy ddefnyddio data ar brydau ysgol am ddim (FSM). Yn gyffredinol pan fo nifer y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn cynyddu, mae lefelau perfformiad yn gostwng. Fodd bynnag, nid yw hon yn gydberthynas bendant ac mae rhai ysgolion yn perfformio'n well yn gyson nag ysgolion eraill â lefelau tebyg neu is o FSM.

Beth yw meincnodi?

Mae data cenedlaethol yn dangos yn gyson bod cysylltiad rhwng canran y disgyblion sy'n gymwys i gael FSM mewn ysgol a deilliannau perfformiad. Yn gyffredinol, mae cyrhaeddiad yn gostwng pan fo lefelau cymhwysedd FSM yn cynyddu. Byddai'n annheg cymharu ysgolion sydd â ffigurau FSM isel iawn â'r rhai sydd â ffigurau uchel iawn. I oresgyn y broblem hon, mae ysgolion wedi'u gosod mewn pum grwp meincnodi ar sail canran y disgyblion sy'n gymwys i gael FSM. Caiff ysgolion eu cymharu o fewn eu grwp FSM a'u gosod mewn chwarteri yn dibynnu ar eu perfformiad.

Beth yw’r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion?

Nod y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yw darparu strwythur clir i adolygu pa mor dda y mae ysgol yn perfformio er lles ei holl ddisgyblion, gan roi ystyriaeth i ba mor dda y caiff ei harwain a’i rheoli, ansawdd yr addysgu a’r dysgu a lefel y gefnogaeth a’r her sydd ei hangen arni i berfformio hyd yn oed yn well.

Caiff pob ysgol uwchradd ac ysgol gynradd eu rhoi mewn un o bedwar categori lliw mewn perthynas â chefnogaeth. Bydd pob ysgol yn derbyn rhaglen gefnogaeth wedi’i theilwra ar sail y categorïau hyn.

Mae’r system yn helpu i nodi’r ysgolion y mae angen y cymorth mwyaf, y gefnogaeth fwyaf a chanllawiau arnynt i wella. Mae hefyd yn nodi’r rheini sy’n gwneud yn dda ond a allai wneud yn well a’r rheini sy’n hynod effeithiol ac a all helpu a chefnogi eraill i wneud yn well.

Mae canllawiau manwl ac arweiniad i rieni ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Pam nad yw cyllidebau ysgolion Cymru yn cael eu cymharu?

Nid yw'r Adran Addysg a Sgiliau yn cyllido ysgolion yn uniongyrchol. Neilltuir arian i awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion drwy grant bloc i dalu am ddarpariaeth ar gyfer ysgolion a gwasanaethau eraill gan yr awdurdodau lleol (gwasanaethau cymdeithasol a ffyrdd ac ati). Rhoddir gwybodaeth ar Fy Ysgol Leol am y gyllideb sydd ar gael i bob disgybl. Mae hyn yn adlewyrchu'r arian a ddirprwyir gan awdurdodau lleol i ysgolion unigol. Darperir cyllid canolog ychwanegol gan awdurdodau lleol (yn aml ar gyfer cludo plant i'r ysgol ac ati), ond nid yw hyn wedi'i gynnwys yn y data am y gyllideb fesul disgybl. Gan fod lefel y ddarpariaeth ganolog yn wahanol o un awdurdod lleol i'r llall, byddai'n gamarweiniol cymharu'r gyllideb a ddirprwyir fesul disgybl mewn un awdurdod â chyfartaledd Cymru.

Beth yw'r Teuluoedd o ysgolion?

Grwpiau o ysgolion yw'r rhain sy'n wynebu'r un lefel o her yn gyffredinol a all weithio gyda'i gilydd i wella. Yn y lle cyntaf, caiff y teuluoedd eu creu drwy grwpio ysgolion yn ôl eu maint (ar gyfer ysgolion gynradd) a’u categori ieithyddol. Wedyn, o fewn pob grwp lefel uchel, caiff yr ysgolion eu grwpio yn ôl y mynegai ‘her’. Caiff y mynegai ei gyfrifo ar sail cyfran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, lefelau amddifadedd, disgyblion ag Anghenion Addysgol Arbennig a disgyblion â Saesneg fel Iaith Ychwanegol.

Pam nad ydym yn cymharu â gwledydd eraill?

Mae'r systemau addysg wedi dilyn eu trywydd eu hunain yn gynyddol ers datganoli ac mae'n dod yn anoddach cymharu hyd yn oed ar lefel Cymru. Mae'r cwricwlwm yn gallu gwahaniaethu (y Cyfnod Sylfaen sydd yng Nghymru, Cyfnod Allweddol 1 sydd yn Lloegr), mae'r ffordd y caiff cymwysterau eu nodi a'r ffordd yr asesir disgyblion yn gallu gwahaniaethu (mae Lloegr yn defnyddio profion asesu safonol a Chymru wedi defnyddio asesiadau athrawon). Hefyd, ni fu'n bosibl cymharu cyllidebau ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn ystod y blynyddoedd diwethaf (gweler yma).

Ffactor arall yw mai gwybodaeth am ysgolion Cymru yn unig sydd gan Lywodraeth Cymru. Mae yna wefannau data eraill i rieni yn rhannau eraill o'r DU sy'n darparu data tebyg i Fy Ysgol Leol. Mae modd cymharu â gwledydd eraill drwy ganlyniadau PISA a gyhoeddir gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

Pam na allaf gymharu ysgolion?

Mae'n bosibl edrych yn unigol ar bob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghymru. Nod Fy Ysgol Leol, fodd bynnag, yw helpu pobl i ddeall mwy am berfformiad ysgol unigol yng ngoleuni cyd-destunau penodol yn hytrach na rhestru ysgolion ar ddull tabl cynghrair perfformiad.

A yw’r wybodaeth yn ddibynadwy?

Credwn fod y data yn gywir gan ei fod yn deillio, gan fwyaf, o ddata sydd wedi cael eu casglu, yn wreiddiol, ar lefel disgyblion unigol. Mae’r rhan fwyaf o’r data yn dod yn uniongyrchol o ysgolion ac mae eu cywirdeb wedi’i wirio. Mae’r rhan fwyaf o’r data yn Ystadegau Cenedlaethol. Mae rhai setiau data, megis canlyniadau arholiadau Cyfnod Allweddol 4, yn rhai cymhleth iawn sy’n deillio o ganlyniadau sawl corff dyfarnu ac sy’n cynnwys ystod o wahanol gymwysterau megis TGAU a chymwysterau galwedigaethol. Cynhelir gwiriadau ychwanegol ar y data hyn gan ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn gywir cyn eu cyhoeddi. Mae setiau data eraill, megis nifer y disgyblion neu athrawon sydd yn yr ysgol, yn dod o gyfrifiad ysgolion a gynhelir yn flynyddol. Ceir ffynonellau eraill o ddata hefyd. Er enghraifft, mae’r data cyllid yn dod o ffurflenni a ddychwelir gan awdurdodau lleol.

Pam nad oes data perfformiad ar gyfer Ysgolion Meithrin ac Ysgolion Arbennig?

Nid oes unrhyw ddata asesu yn cael eu casglu ar hyn o bryd ar gyfer Ysgolion Meithrin. Nid yw’r data asesu ar gyfer Ysgolion Arbennig, gan ddefnyddio lefelau y Cwricwlwm Cenedlaethol, o anghenraid, yn rhoi darlun defnyddiol o’r effaith a gaiff yr ysgolion hyn ar ddatblygiad nifer o’u dysgwyr, yn enwedig y rhai hynny sydd ag anghenion difrifol neu gymhleth. Mae data cyd-destunol ar gael o hyd ar gyfer Ysgolion Meithrin ac Arbennig.

Pam nad yw data cyfnod allweddol 4 ar gyfer Cymraeg (Iaith Gyntaf) yn dangos ar gyfer fy ysgol i?

Caiff y data eu dangos os ydynt ar gael. Mae’n dal yn bosib astudio’r pwnc hwn mewn rhai ysgolion cyfrwng Saesneg.

Fodd bynnag, pan fydd cohort yn llai na 5, nid yw’r data’n cael eu dangos.

Beth yw effaith carfanau bach ar y data?

Mae carfanau bach yn golygu y bydd gan bob disgybl bwysoliad uchel. Mae’n debygol y bydd disgyblion unigol yn y carfanau hyn yn amrywio o ran rhyw, oedran a gallu. Yn ogystal, hwyrach na fydd gan rai carfanau unrhyw fechgyn, merched na disgyblion hyd yn oed. Gall y ffactorau hyn amharu ar ganlyniadau carfanau a thueddiadau ysgolion. O ganlyniad, hwyrach na fydd hi’n bosibl llunio casgliadau o ddadansoddiad sy’n seiliedig ar grwpiau bach iawn.